Skip to content

« Back to News

Mae Eich Llais Chi o Bwys | Your Voice Matters

By NHS | 14th September 2026 | News

For the first time, colleagues working across NHS Wales contracted primary care services will be invited to take part in the NHS Wales Staff Survey. This is an important milestone, helping to ensure the experiences and views of staff working in community pharmacy, general practice, dentistry and optometry are represented within a national picture of workforce experience across Wales.

This provides an opportunity for primary care colleagues to have their voices heard and to help shape future workforce policy, priorities and improvement activity at both Health Board and national levels. Bringing primary care into the survey recognises its essential role across the health and care system and will help create a more complete and consistent understanding of workforce experience across NHS Wales. The survey will also build on the wellbeing and belonging surveys undertaken across primary care over recent years, bringing this insight into a single national approach and reducing the need for separate surveys in the future.

Take a look at the attached poster to find out more about what's coming, key dates, and how you can help us spread the word.

Am y tro cyntaf, bydd cydweithwyr sy'n gweithio ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol dan gontract GIG Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Staff GIG Cymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig, sy'n helpu i sicrhau bod profiadau a safbwyntiau staff sy'n gweithio ym maes fferylliaeth gymunedol, ymarfer cyffredinol, deintyddiaeth ac optometreg yn cael eu cynrychioli o fewn darlun cenedlaethol o brofiad y gweithlu ledled Cymru.

Mae hyn yn rhoi cyfle i gydweithwyr gofal sylfaenol gael eu clywed ac i helpu i lunio polisi, blaenoriaethau a gweithgarwch gwella'r gweithlu yn y dyfodol ar lefel Bwrdd Iechyd a chenedlaethol. Mae dod â gofal sylfaenol i'r arolwg yn cydnabod ei rôl hanfodol ar draws y system iechyd a gofal a bydd yn helpu i greu dealltwriaeth fwy cyflawn a chyson o brofiad y gweithlu ledled GIG Cymru. Bydd yr arolwg hefyd yn adeiladu ar yr arolygon lles a pherthyn a gynhaliwyd ar draws gofal sylfaenol dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddod â'r mewnwelediad hwn i un dull cenedlaethol a lleihau'r angen am arolygon ar wahân yn y dyfodol.

Cymerwch olwg ar y poster atodedig i ddarganfod mwy am yr hyn sy'n dod, dyddiadau allweddol, a sut y gallwch ein helpu i hysbysebu'r arolwg

Recent Articles